Gwyl Gelfyddydau Betws-y-CoedGwyl Gelfyddydau Betws-y-Coed Eryri Gogledd Cymru

Hanes y Celfyddydau ym Metws-y-Coed, Eryri, Gogledd Cymru

arwydd gan david cox

Arwydd Gwesty'r Royal Oak gan David Cox

Tyfodd trefedigaeth artistig gyntaf Prydain o amgylch Betws-y-Coed yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe dreuliodd David Cox sawl haf yn y pentref yng Ngwesty’r Royal Oak gyda llawer o beintwyr tirlun eraill yn ymuno ag ef.

Fe dyfodd y pentref fel man gwyliau mewndirol yn dilyn adeiladu’r rheilffordd wrth i fwy a mwy o artistiaid ag ymwelwyr gael eu hatynnu at waith artistiaid y trefedigaeth. Hwyrach wedi hynny fe symudodd yr arlunydd enwog, Clarence Whaite, i fyw yn Nyffryn Conwy, gyda thirwedd a diwylliant Gogledd Cymru yn ei atynnu i’r ardal.

Yn 1882, chwaraeodd Whaite ag artistiaid eraill y drefedigaeth ran allweddol mewn sefydlu’r Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy.

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â lleoliad y digwyddiad neu:

Drwy'r Post: Oriel Alison Bradley, Ffordd Caergybi, Betws-y-Coed, Gogledd Cymru. LL24 0AB
Ffôn: 01690 710080
E-bost:
cysylltwch â ni drwy e-bost