Gwyl Gelfyddydau Betws-y-CoedGwyl Gelfyddydau Betws-y-Coed Eryri Gogledd Cymru

Gŵyl Gelfyddydau Eryri - Betws-y-Coed, Gogledd Cymru

Cynhaliwyd Ŵyl Gelfyddydau cyntaf Eryri (Gŵyl Gelfyddydau Betws-y-Coed gynt) rhwng y 16eg a’r 19eg o Ebrill 2009 ym mhentref Betws Y Coed yn Nyffryn Conwy yn Eryri, Gogledd Cymru. Mae’r trefniadau yn brysur yn mynd yn ei blaen ar gyfer yr ŵyl nesaf a fydd yn cael ei chynnal o ddydd Gwener y 7fed o Hydref hyd at ddydd Sul y 9fed o Hydref 2011.

Mae Betws y Coed, y drefedigaeth artistiaid wreiddiol, a Dyffryn Conwy wedi cadw cysylltiad cryf gyda’r celfyddydau. Mae yna lawer o artistiaid a chrefftwyr yn byw ac yn gweithio yn yr ardal, , cafodd yr ŵyl gyntaf ei drefnu i gyd fynd â’r flwyddyn ymwelodd David Cox â Betws-y-Coed am y tro cyntaf, 165 o flynyddoedd yn ôl, ac i ddathlu treftadaeth gelfyddydol yr ardal a’r artistiaid hynny sy’n gweithio yma ar hyn o bryd.

O noson agored brysur yng nghwmni Elfyn Llwyd AS i gyfres o arddangosfeydd, sgyrsiau, gweithdai, digwyddiadau cerddorol, a theithiau creded ac adrodd straeon i ddiwedd yr ŵyl ar noswaith heulog o wanwyn, roedd trefnwyr y ŵyl Gelfyddydau gyntaf yn falch fod y digwyddiad wedi cael cychwyn llwyddiannus.

Cyn y digwyddiad, manteisiodd ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Conwy ac Ysgol Gynradd Betws Y Coed o gymryd rhan mewn prosiectau celf gyda Alison Bradley a Bernadette Rippon, a braf oedd gweld y gwaith a wnaethpwyd yn cael ei arddangos yn Oriel Alison Bradley ar benwythnos yr ŵyl.

Roedd uchafbwyntiau’r ŵyl yn cynnwys casgliad o luniau o’r Drefedigaeth Arlunwyr Betws Y Coed 1844 - 1914, sgwrs gan yr haneswyr celf Peter Lord ynghlyn a’r drefedigaeth, cyfres o weithdai celf, nifer o ddigwyddiadau cerddorol ac agoriad Plas Coed Y Celyn lle cafodd ymwelwyr y pleser o daith bersonol gan yr arlunydd Barbara Shorrocks-Carter.

Mae nifer o arddangosfeydd celf a ffotograffiaeth, gweithdai a digwyddiadau cerddorol, llen a barddoniaeth wedi eu cadarnhau at ŵyl 2010. Yn newydd at y flwyddyn yma bydd pabell grefftau mawr gyda thua 30-40 o gynhyrchwyr crefftau o Ogledd Cymru ar Cae Llan. Am fwy o fanylion cymerwch olwg ar ein tudalen digwyddiadau.

Bydd yr ŵyl, flwyddyn yma, yn cael ei ddilyn gan yr Ŵyl Gerdded Eryri'r wythnos canlynol.

Uchafbwyntiau

Arddangosfa Alison Bradley

Dydd Gwener 7 Hydref i Dydd Sul 9 Hydref
Arddangosfa o waith diweddaraf Alison Bradley.

:: mwy o fanylion

Arddanghosfa Agored

Dydd Gwener 7 Hydref i Dydd Sul 9 Hydref
Mae'r arddangosfa yn agored i gelfyddwyr o bob math

:: mwy o fanylion

:: gweler pob digwyddiad

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â lleoliad y digwyddiad neu:

Drwy'r Post: Oriel Alison Bradley, Ffordd Caergybi, Betws-y-Coed, Gogledd Cymru. LL24 0AB
Ffôn: 01690 710080
E-bost:
cysylltwch â ni drwy e-bost